P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christine Wineyard, ar ôl casglu cyfanswm o 28,505 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae nifer sylweddol o fyfyrwyr Cymru wedi bod dan anfantais annheg oherwydd yr algorithm mathemategol a gymhwyswyd iddynt ar gyfer canlyniadau arholiadau 2020. Bydd hyn yn rhoi pobl ifanc Cymru dan anfantais ar gyfer eu cyfleoedd bywyd yn y dyfodol, sy’n annheg. Mae myfyrwyr yn yr Alban yn cael graddau a ragwelwyd gan athrawon, felly byddant yn fwy tebygol o sicrhau lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol yn 2020. Ni fydd hyn yn wir i fyfyrwyr Cymru. Nid yw’r broses yn trin myfyrwyr Cymru fel unigolion.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Alun a Glannau Dyfrdwy
· Gogledd Cymru